Profile
Blog
Photos
Videos
Rownd y Byd efo Helen a Fiona!!
helo na! Wel dyma fi ar fy niwrnod olaf yn Seland Newydd! Ma gen i mixed feelings go iawn heno am fy mod i'n gadael gwlad lle dw i wedi cal andros o lot o hwyl ynddi, ond dw i hefyd yn edrych mlaen cyn gymaint ir darn nesaf o'n trip yn Fiji (a chael haul)!!
Ers i mi fod yn mwydro ddwetha, da ni wedi bod yn trafeilio o gwmpas ardal y Coromandel. Ardal sy'n llawn trefi bach distaw a thlws, ar rhan fwyaf ohonynt wrth y traeth. Mae'r ardaloedd yma hefyd wedi bod yn llawn artistiaid au stiwdios ag orielau... Allwch fentro mod i wedi bod wrth fy modd, ond dwi yn teimlo mod i wedi llusgo Fiona ogwmpas digon o orielau i bara oes iddi!
Nes i fwynhau cerdded (neu trampio mae nhw'n ei alw yn y wlad yma!) lawr i lan mor bach hyfryd o'r enw Cathedral Cove. Yno roedd na greigiau oedd wedi ffurfio ogafau, bwa a stacs (cofio hyn o'r ysgol!!). Roedd o'n anhygoel meddwl fod y mor wedi creu rhein ag eu bod nhw'n edrych mor brydferth.
Ar ol dringo nol fyny o'r Cove, aethon yn ol am gyfeiriad Auckland, ag aros yn Manukau, tua hanner awr or ddinas. Roedd hi'n amser emosiynol iawn yn fama gan ein bod yn goro mynd a Noah bach yn ol! Dreulion ni ddiwrnod cyfa yn gwagio'r fan ag yn darganfod rhai pethau yn y cypyrddau nad oeddan wedi eu gweld ers dau fis!!! Mi oedd na cyn gymaint o betha, ag nes i ddechra poeni ar un pwynt na fysa bob dim yn mynd yn ol i'r ces. Er fod rhaid eista ar ben y ces iw gau o, mi aeth bob dim i mewn, a da ni bellach mewn hostel yn Auckland. Ma hi'n braf cael gwely i mi fy hyn a pheidio gorfod cysgu draed wrth ben efo Fiona, ond mi nes i ddeffro yn y nos neithiwr a theimlo dwi'n siwr fel ma siamese twins yn teimlo ar ol cael eu gwahanu!!!!!
Da ni ddim wedi bod yn neud llawer yma gan ein bod wedi bod yma ddwy waith o'r blaen a wedi neud y cwbwl (!!) ond mi fuon i fyny'r Sky Tower ddoe i gael un cip olwg dwetha o Seland Newydd. Doedd o ddim hanner cyn gystad a'r un yn Sydney, mae rhaid i mi ddeud!
Heno ma gen i noson gyffroes o olchi dillad! Wehei!! Ond mae'n well cael petha yn eu trefn cyn mynd i Fiji gan nad oes posib deud sut fydd y hostels yn fano!
Mi fydd rhaid deud 'Bula' wrthych tro nesa... h.y os fyddai yn gallu llysgo fy hyn o'r traeth!!!
Llawar o gariad Hels xxxxxx
- comments