Profile
Blog
Photos
Videos
Rownd y Byd efo Helen a Fiona!!
Mi gyrhaeddon yn ol yn Auckland ar ol dreifio am oria, a dod o hyd i'r criw rygbi. Rhywsut hefyd gawson afael ar dicedi i weld y gem ola un rhwng y llewod ar All Blacks! Wel son am hwyl!!! Roedd y bar yn lle roeddan yn aros yn gorad rownd ril, felly doedd dim ond un peth iw neud ond cael andros o barti mawr!! Dyna'r oll gewch chi wybod am y weekend honno!!!!!
Erbyn hyn mae pawb o'n ffrindiau wedi mynd adra a mae Seland Newydd yn ddistaw iawn! Da ni yn trafeilio o gwmpas pwynt uchaf y wlad, a tydi hi ddim yn stopio bwrw yma!! Er y tywwydd sal, da ni'n cael gweld dipyn o betha e.e y Whangarei waterfall, yr ogofau llawn glow-worms, 90 mile beach, coed a lot o pukekos'!!!
Ella na fydd Fiona mewn cysylltiad am ddipyn am ei bod wedi prynnu llyfr newydd Harry Potter!!! (Dw i'n mwynhau y distawrwydd!!)
hugs gan Hels xx
- comments