Profile
Blog
Photos
Videos
Rownd y Byd efo Helen a Fiona!!
Helo!! Dw i wedi bod yn andros o brysur ers i mi updatio chi ddwetha (i ddeud y gwir, dyna'r unig ffordd ma hi'n bosib cadw'n gynnas yn y lle ma!). Gyrhaeddon ni Whakatane a ges i'r profiad o wneud rhywbeth dw i di bod eisiau ei wneud ers cael gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol sef cerdded mewn i losgfynydd byw (yes, i know- it takes all sorts!). Ma'r llosgfynydd ar ynys o'r enw White Island, ag roedd y ffaith fod o'n bosib i'r holl beth chwythu fyny unrhyw adag yn gneud i rywun deimlo reit nyrfys- ond on i yn barad amdano yn fy helmet felyn a'r gas mask. Diolch byth, doedd na ddim rymbyls yn dod o grombil y ddaear y diwrnod hwnnw, er fod digon o wres a stem yn cael ei ollwng o'r crater. Profiad ffantastic!
Penderfynodd Noah bach fod o ddim yn teimlo'n rhy dda a gwrthod tanio y diwrnod oeddan i fod i gychwyn i Gisborne (a sign of things to come I'm afraid!). Pan gyrhaeddon yn Gisborne yn y diwedd, doedd na ddim llawar iw neud yno, ond hwn ydi'r dre lle mae'r haul yn codi gyntaf yn y byd i gyd!! Dw i'n falch o ddeud mod i wedi cael y pleser o gael gweld hyn, er fy mod i wedi gorfod codi yn gynnar iawn i neud hynny! Doedd dim posib deffro Fiona o gwbl, felly nes i adael hi'n chwyrnu a mynd i eistedd ar y traeth, a chael y fraint o ddeud mai fi oedd un o'r pobl cynta yn y byd i weld gola dydd y diwrnod hwnnw! Es i yn ol i fy ngwely wedyn!!
Aethon i Taupo wedyn a chyfarfod a bois cymraeg oedd digwydd bod wedi parcio yn y campervan drws nesa i ni! Aethon i gyd allan i wylio'r rygbi ag yn anffodus, mae na lunia o'r noson honno!! Lle ar gyfer neud lot o extreme sports ydi Taupo, felly not for the faint hearted!! Ges i brofiad gwych ar y Huka Jets, cychod sy'n mynd yn gyflym iawn ag yn gallu neud spins a ballu am eu bod nw mor ysgafn! On i yn socian, ag yn meddwl ar un pryd mod i am ddisgyn i'r afon, ond roedd o werth yr holl sgrechian!!! Mi nes i feddwl neud skydive tra on i yma, ond yn anffodus (!!) roedd y tywydd yn rhy gymylog, felly dyma benderfynnu mynd i hwylio ar y llyn. Dysgodd Bill y skipper ni sut oedd codi'r hwylia a ballu. Ces go iawn oedd Bill, roedd o di bod yn y Royal Welsh pan oedd o'n ifanc yn gneud arddangosfa ffensio, felly roedd o wrth ei fodd yn cal sgwrsus efo ni. Oddi ar y gwch gawson weld yr ancient Maori rock carvings. Roeddant yn impressive iawn ond pan ges i wybod na dim ond 26 mlynedd yn ol gaethon eu gneud, nes i ddechra poeni - sgen i mond 2 flynedd i fynd nes fyddai yn ancient!!
Aethon drw Napier ar ol hyn, tre bach gaeth ei chwalu gan ddaeargryn ers talwm, a benderfynodd rhywun ei adeiladu yn ol mewn 'art deco style'!! Gan fy mod i yn casau art deco, fuon ni ddim yno yn hir iawn!!
Da ni yn Wellington rwan ers dipyn, a wedi cael andros o hwyl tra da ni di bod yma!! Fuon ni mewn wildlife park a chael gweld kakas, Tuis a Kiwis! Aethon ar cable car i gael gweld yr olygfa o Wellington. Ond mae rhaid deud mai un o'r petha gora wnaethon ni yma oedd digwydd parcio ein van drws nesa i Chris a Ian Rowntree - dim ond tad a brawd Graham Rowntree sy'n chwara i'r Lions!! Dwi'n ama eu bod nw yn teimlo bechod drostan ni mewn campervan mor fach fel eu bod nhw'n gadael i ni fynd i'w van nhw i gael panad a chynesu! Roedd Chris (y tad) wedi cymryd aton ni dw i'n meddwl, felly dyma fo'n cael ei fab i gael ticedi i weld gem y Lions i ni am ddim!!! Oeddan ni wedi gwirioni - chydig bach!!! Roedd y gem (Manawatu v Lions) yn anhygoel. Roeddan ni yn eista efo tim y Llewod i gyd!! Pan sylweddolodd Fiona eu bod nhw i gyd yn eista efo ni, on i yn meddwl ei bod hi am basio allan!! Pan sylewddolodd hi fod Stephen Jones yn eistedd reit tu ol iddi, aeth hi'n llwyd i gyd a methu siarad!! Fues i yn sgwrsio efo Gareth Thomas a cariadon/gwragedd rhai o'r players fel mod i'n nabod nhw'n iawn!! Noson wych!!!
Mi ddaeth Wellinton yn le prysur iawn dros y dyddia nesa- pawb yn dod yma ar gyfer yr 2il test match. Mi wnaeth o droi allan i fod yn un parti mawr am rhai dyddia!!! Gawsom y pleser o gyfarfod Andrew, Brian a Michael - bois o'r Tymbl, sydd wedi achosi i mi ddatblygu acan hwntw mawr gan nad oeddan nhw'n fy neall i'n siarad os nad oeddwn i'n siarad fel ma nhw!! Yn anffodus, gollodd y Llewod y gem ond nath hynny ddim rhoi stop ar y parti! Erbyn hyn mae pawb wedi symyd ymlaen i lle mae'r gem nesa. Da ni mewn picil braidd heddiw gan ein bod ni eisiau gweld y South Island ond hefyd isho dilyn y rygbi a'r atmosphere gret sy'n dod efo fo! Da ni am groesi ar y fferi pnawn ma ag ella y byddan yn gallu gweithio ein ffordd yn ol i'r gogledd erbyn y gem! Gawn ni weld ynde! Dw i siwr o adael chi wbod beth sy'n digwydd!!
Llawar o gariad - Hels xxxxxx
P.S ...ymm... heb gael neges ar y msg board ers talwm :_(
- comments