

North Island, New Zealand
Helo!! Dw i wedi bod yn andros o brysur ers i mi updatio chi ddwetha (i ddeud y gwir, dyna'r unig ffordd ma hi'n bosib cadw'n gynnas yn y lle ma!). Gyrhaeddon ni Whakatane a ges i'r profiad o wneud rhywbeth dw i di bod eisiau ei wneud ers cael gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol sef cerdded mewn i losgfynydd byw (yes, i know- it takes all sorts!). Ma'r llosgfynydd ar ynys o'r enw White Island, ag roedd y ffaith fod o'n bosib i'r holl beth chwythu fyny unrhyw adag...