Profile
Blog
Photos
Videos
Rownd y Byd efo Helen a Fiona!!
Helo na!! Sut mae pawb erbyn hyn? Da ni wedi cyrraedd yn saff yn Seland Newydd. Mae hi'n braf gweld y gwyrddni a'r mynyddoedd unwaith eto, ond mae hi'n ddiawledig o oer yma. Wedi gorfod mynd i brynnu hetia, sgarff a menyg yn ogystal a sanna tew, vests (!) a hyd yn oed potal dwr poeth!!!
Os ydach chi wedi darllan blurb Fiona, allwch ddychmygu mod i wedi cal wsos reit heipd efo hi!! Mae hi wedi gwirioni'n lan ar ol gweld bois o tim y lions, a does dim byd arall iw gael ganddi ar hyn o bryd ond " oh Shane", ag "oh Gavin, tom, stephen, johnny......."!!
Da ni yn Rotorua ar hyn o bryd, lle neis ond fues i rioed mewn lle mor ddrewllyd yn fy mywyd!!! Mae'r ddaear o gwmpas y dre yn rhyddhau sylffer yn ofnadwy ag mae ogla wya drwg yma drw'r amser -lyfli!! Mi gyrhaeddon ni yma yn ein camper fan BACH, sydd yn mynd i fod yn gartref i ni am y ddau fis nesa. Da ni wedi ei fedyddio fo fel Noah a dwi'n siwr ein bod ni yn mynd i gal andros o sbort efo fo!! Mi fuasa'n gwneud bywyd yn haws os fysa fy suitcase i yn ffitio i mewn i'r car... ond dyna ni!!
Fuon ni yn Zorbio diwrnod o'r blaen!!! Wel son am sbort! rhowlio lawr ochr cae mewn pel fawr a ychydig o ddwr tu mewn fel ein bod ni'n sleidio o gwmpas. Roedd Fiona a fiina yn yr un bel, a ni'n dwy yn sgrechian yr holl ffordd lawr. Rhaid cal un adra dw i'n ama!
Ddoe fuon ni yn gwylio'r gem rygbi rhwng y lions a Bay of Plenty. Braf oedd cal cyfarfod yr holl bobl oedd wedi trafeilio drosodd o Gymru i weld y gem a chal sgwrsio efo nhw i gyd yn y parti dathlu mawr aeth ymlaen tan oria man y bora!!!
Da ni yn dreifio ymlaen i Whakatane fory (rhaid nodi fod bobl y wlad yma yn dweud 'wh' fel 'ff' - so da ni am gal hwyl fory yn gofyn am directions!!!).
Hwyl Hels xxx
- comments