Profile
Blog
Photos
Videos
Cyrheaddom yn ystod y bore bach, y ddinas yn ddim ond dechrau deffro. Eistedd yn yr arhosfan fysys, fy ngwallt i fel gwallt bwgan brain . . . . pawb yn flinedig, eisiau bwyd ac wedi blino . . . . . . penderfynnu mynd a ffonio'r hostel i gwestiynu, mewn ffordd neis, lle'r oedd y tacsi roeddynt wedi'i addo i ni. Ar ol mynd drwy'r manylion angenrheidiol a thanlinnellu'r ffaith ein bod wedi cyrraedd, derbyn addewid y bydd ar ei ffordd i'n pigo i fynu. miwlsi bar, ac ambell i gyrrant yn ddiweddarach (y gwallt ddim gwell hyd yn oed ar ol treulio amser o flaen drych yn y toiled) roeddem dal i aros yn yr arhosfan. Ffonio eto, dim ateb . . . "nefi, ma'n siwr yn bod ni reit bell o'r ddinas felly" . . . . . . erbyn hyn, roedd rush hour wedi mynd a dod, a dim ond ambell i foi neu ddynes mewn siwt yn rhedeg heibio . . . a dyna ni, allan o nunlle bron iawn, dyma'r camper fan bach 'ma yn troi fynu, wedi'i haddurno a'r dyluniad 'annie's place', Boi bach o'r enw Stefan yn neidio allan, yn datgan ein bod yn yr arhosfan anghywir, mae'n ymaddangos fy mod wedi bwcio'r tacsi yn alice springs. (wps) Yn amlwg camddealltwriaeth wedi bod wrth gysylltu hefo'r swyddfa ganolog hostels annie's place, a bod na ddynes fach yn eistedd yn yr arhosfan fys alice springs . . . . . . dyna'r unig rif y cawsom yn yr e-bost i'w ffonio . . , wir. Neidio mewn i'r camper fan, ac i ffwrdd a ni, dafliad carreg lawr y ffordd, a chyrraedd gwesty o hostel.
moral y stori, 1) Cofiwch grybwyll enw'r dref wrth ffonio am dacsi,
2) edrychwch ar fap . . . falle bod ffyrdd haws, cynt i ffeindio'r diwedd fan, mewn geiriau eraill, cerdded!!!!!
Yn dilyn cwsg, aethom i gerdded a gwneud siop mawr bwyd. sel ar gacen ffrwythau, felly rhuthro nol i'r hostel i wneud paned (roedd te a choffi am ddim) a bwyta darn. LYFERLI. teimlad wir gymdeithasol i'r hostel yma, byrddau a chadeiriau wedi'u gwasgaru yng nghanol yr ystafelloedd yn, o bosib be gall gael ei alw fel 'court yard'. Am hanner awr wedi saith bob nos, roedd y gwres yn cael ei droi ymlaen a'r sheets plastig yn cael ei roi lawr (i atal y glaw) ac roedd criw yn ymuno a'u gilydd i wylio ffilm.
Yr uchafbwynt, heb os, oedd ymweld a ffactri siocled haighs. heb glywed amdano o'r blaen?? wel, y rheswm am hynny ydi mai dim ond yn Awstralia mae modd prynu'r math yma o siocled, yn fwy na hynny, dim ond siopau'r cwmni mae'r melysion yn cael eu gwerthu. Yn anffodus, penderfynnodd mab gwneuthurwr y siocled ar cwmni ymweld, a byw yn Swistir er mwyn dysgu mwy am y broses o greu siocled, yn dilyn gyrru llythyr at sawl cwmni, dim on un rhoddodd wahoddiad iddo . . . lindt. Ddim rhyfedd bod y siocled mor dda!! Yr 'anffodus' wedi'i grybwyll uchod yn sgil y ffaith, wrth adael, ein bod hefyd yn gadael unrhyw siawns o fwyta mwy o'r siocled, wel, mae hynny'n dibynnu arnom yn dilyn awgrym arweinyddes y daith o gwmpas y ffactri, a ffeindio 'ffrind siocled' yn adelaide, melbourne neu sydney (lle mae'r siopau) a'u cael i brynu a gyrru'r siocled atom, lle bynnag y byddwn yn y byd . . . . rydym wedi cychwyn ar y broses o ffeindio'r ffrind arbennig hynny i ni yn barod. . . . . .
. . . . . .ac wrth i'r chwilio hynny gychwyn, daeth i ben wrth i Catrin dderbyn newyddion da ei bod wedi cael cynnig swydd yn Adelaide! Gwych, dathlu wrth fwyta hufen ia, gyda gwen anferth ar wynebau'r tair ohonom, y gwenu bron mor llydan a'r rheiny yn coober pedy wrth syllu ar y modrwyon!!! hehe. Yn sgil y newyddion da daethom i sylweddoli y byddwn yn colli cwmni catrin yn fuan.
Gwyrddni wedi'u gwasgaru dros y lle i gyd, ar gwyrddni hynny wedi'u hardduno hefo cerfluniau gwahanol, chydig bach yn grwfi!! Hen adeiladau yn tynnu'r sylw oddi ar y skyscrapers newydd diflas, a bwrlwm dinasol ddim yn rhoi teimlad o fod yng nghanol dinas o gwbl. Lle i fynd ac ymlacio, ddim llawer mwy, er, dyma oedd hoff le Lisa hyd yn hyn. Dyma hefyd oedd yr hostel neisia, ar oeraf!! er dwn i ddim pam ein bod yn cwyno, o bosib roedd yr haul yn tywynu mor boeth a Chymru fach yn ystod yr haf!! Daeth hi'n eithaf amlwg bod yr un trwsys roeddwn wedi'i bacio yn mynd i gael dipyn o ddefnydd . . . . . yng nghyd ar un siwmper hefyd!!!!
Yng nghanol yr hen adeiladau roedd rundell mall wedi'i sefydlu, yn stryd siopa modern, hefo'r hen siopau yn cadw blas hanes y ddinas mewn pocedi cyffrous yn ei ganol. Marchnad dydd sul yn i gynnal yma hefyd, yn andros o draddodiadol wrth i gelf a chrefft y bobl leol gael eu harddangos, yng nghyd a chyfle i flasu bwydach newydd, erioed wedi trio licrish chili o'r blaen?? reit flasus . . wir!!!!
Rhyfeddod wrth grwydro parciau'r ddinas sut y gall flip flops (thongs) a phel fowns basio'r amser. . . . . . creu gem newydd yn cyfuno tenis, tenis fwrdd, badminton, pel foli, ac unrhyw beth arall sydd yn golygu hitio pel dros rwyd dychmygol. Y parc dan sylw, er yng nghnaol dinas, mor dawel, mor heddychlon, yn arbennig.
trip i'r traeth wedyn yn profi i fod yn hynod ddeiniadol, a chicio'n hunain nad oeddem wedi ymweld a'r rhan yma or ddinas yn gynharach, wedi gobeithio dal machlud yr haul, ond bu raid gwneud penderfynniad, colli'r tram olaf, neu profi machlud . . . y dewis oedd mynd yn ol (ddim eisiau colli'r ffilm 7.30!!!), da o beth oedd y dewis hwnw wrth i foi y tram godi pris plentyn arnom ni "my wife is english" ac wrth ddiolch yn datgan o dan ein gwynt "we're actually welsh" eisteddom i lawr a gadael Glenelg ar machlud haul y tu ol i ni.
Diwrnod o ddal fynu hefo e-byst, a mwynhau te a choffi am ddim yr hostel wrth aros am yr amser lle'r oeddem am ddringo ar fws y greyhound unwaith eto, i Melbourne, lle'r oedd addewid am flasu bwrlwm dinas wrth ail gwrdd ac ambell un o'r rock tour. edrych ymlaen i brofi dinas arall yn Awstralia, ac yn fwy na dim, i brofi byd neighbours . . . . pwy fyddai heb gyffroi wrth feddwl am hynny???
gwenwch a byddwch hapus,
Sgityl, L.S a Ffis
xxxxxxxxxx
p.s Byddai nodyn ar y bwrdd nodiadau yn cael ei dderbyn a gwen.
We arrived . . we ate chocolate . . . we laughed . . . .we conqured, and moved on to the next city!!!
Adelaide, a really nice, small, quaint, city, old builidings, one long street of shops, almost all the shop's you could imagine needing, and, to be fair it was a bit like a normal, usual city.
Let's start at the beginning shall we, as we rucked up to the bus station, barely awake, having spent the night travelling on a rather chilli, cool bus, we were looking forward to basically crashing out. I'd received an e-mail the night before telling me that a taxi would be there waiting for us, if it wasn't a number was also given . . . . . . after waiting for half an hour, quietly munching on curraints, I called, and was promised that the lady on the other side would be on her way shortly. Great. Went back to the curraints, and sat munching some dried fruit. . . watching the city wake up, and seeing the surprisingly calm (I guess we are in Australia) rush hour pass us. The last of the jogging business people were passing, and the fingers of the clock had reached their starting point again and we were still sat there. Another phone call, no answer "Wow, the hostel must be quite far from the city" was the unanimous conclusion, just as a rather quirky camper van came to a halt, and a smilie Stefan jamp out muttering that we were at the wrong stop. The taxi had in fact been booked for Alice springs, while we were day dreaming and staring at the rising sun, there was a woman sat in a annies place camper van doing exactly the same thing at Alice springs . . . wps. It was an honest mistake, where wires had been crossed at the central annies place offices. We jamp into the van, and no joke, were at the hostel within 5 mins (that having taken the long way round) you could almost see the bus stop from the hostel. I was, at this point too tired to laugh.
moral of story: 1) double check the hostel address when booking a taxi
2) Do so0me research, there might be an easier, faster way of getting to the hostel, such as walking.
SLEEP, and away we went to do a big shop. Which, in our world means stock up on pasta. nice. the hostel itself was lovely, probably the nicest we've stayed at so far. the room was huge, with private bathroom, and tv. there was a comunal sitting area in a sort of court yard, at 7.30pm the heater was turned up, the plastic sheeting pulled down, and the tennants appeared from all over to watch a film.
The highlight without doubt was our visit to the chocolate factory. haighs chocolate factory to be exact. A famous chocolate, only to be bought in specific Haighs shops, only to be had in Australia. And, I hate to say it, the choc . . it was good. No surprise really,with the son of the founder having spent a year in Switzerland, studying and learning about the secret of creating good chocolate . . . having asked for the help of many chocolate makers . . . . . the answers from some is still in the air, other's refused, and one said yes, that one company being lindt. No wonder this chocolate tasted so good. The lady which led the tour was not lying as she joked that a 'choc buddy' should be found, which would buy and send haighs choc to friends and family all over the world. Our search has begun . . . . . .
. . . . . and that search came to an end, as soon as it started, as Catrin (ffis) received some good news. She'd been offered a job in Adelaide. An Ice cream was bought to celebrate, with smiles as big as those studying the opal rings in Coober Pedy!!!! really happy for her, though, it meant that her time with us would soon come to an end.
Walking round this city, you couldnt help but stare at the great buildings around. Old, ancient historical buildings giving an insight into the city. Shopping was mostly done in the main rundell mall, but every sunday a market was held which sold cool, hand made arts and crafts. Worth a visit.
Some fun was had on the beach. We should of gone there earlier, so much things to explore. To be honest, all which can be seen within the pictures. We had fun. having wanted to spend some time watching the sunset, it became apparent that a choice would need to be made, that being to catch the tram home, or sunset. We went with home time, not wanting to miss the 7,30 film!! hehe. it was a good shout, with the old tram driver charging us children fees while mentioning "my wife is english", we thanked him with a quiet "we're actually welsh" and sat watching the beach and it's sun set fade behind us.
That was it for our time in Adelaide, It was fun, it was a nice way to break into civilization again, but we waited in excited expectation for the time where the bus would take us onto Melbourne, melbounre which has so much to offer, reuniting with some rock tour chums, and more importantly entering the land of neighbours. . . . now who wouldnt be excited by that?????
Keep smiling, be happy.
Sgityl, L.S & ffis.
P.S A big smile for any message board comments!!!!! ta!
- comments