Profile
Blog
Photos
Videos
g'day gyfeillion,
Dau ddiwrnod, un noson yn unig y gwnaethom dreulio ym Mhrif ddinas Awstralia Canberra. I fod yn deg doedd y rhagolygon wrth drafod y lle heb fod yn gret, ond dal, roeddem eisiau medru deud ein bod wedi bod yma, hynny ar ein ffordd o Melbourne i Sydney.
Anodd oedd gadael bywyd melbourne. Ac ychydig iawn o hostels oedd ar gael wrth ymchwilio i mewn i canberra, felly penderfynnu aros yn yr YHA. Iawn, falle bod 2 ddiwrnod ddim yn lawer o amser i ddod i nabod dinas yn iawn, ac mae'n siwr bod dipyn mwy i'w weld yna, ond wedi treulio gymaint o amser yn crwydro o gwmpas dinasoedd oedd a gymaint i'w cynnig, boed traethau, diwylliant, hanes neu hyd yn oed llefydd rhad, doedd Canberra jyst ddim yn cymharu, dyma ddinas, wedi'i hadeiladu gyda'r bwriad o atal y ffrae rhwng sydney a melbourne o bwy fydd yn brif ddinas. Dyma ddinas wedi ei adeiladu gyda'r unig fwriad o fod yn brif ddinas, i fod yn ganolfan busnes a gwleidyddol, dyna'i gyd. Mae'r dinasoedd eraill wedi datblygu, o ran hanes, diwylliant, maint, ac mae hynnyn glir o ran adeiledd y llefydd, o ran canberra, na doedd ddim modd gweld hynny.
'Den ni'n deithwyr tlawd. roedd canberra'n ddrud!! roedd angen i ni wario dipyn o bres hyd yn oed am wely yr un mewn ystafell 10 gwely. mater bach o gael gadw'n bagiau mawr yn golygu gwario mwy o bres wrth dalu am locer, rhywbeth ni heb orfod ei wneud o gwbl mewn unrhyw hostel arall, trwy gydol y daith yn gyfan. Ok, felly pasiodd y noswaith gyntaf ar olaf yn braf wrth wylio ffilm hefo'n cyd letywyr, cyn sleifio mewn i'r ystafell am 11.15yr hwyr gan bod pawb arall yn gwely. cael ei ddeffro gan un o'r criw am 7.30 y bore i'w swn yn gwneud ymarfer corff . . . yn yr ystafell, tran cael sgwrs am bwysigrwydd sgipio ar gyfer iechyd corfforol. . . . . beth y gallaf ddweud, mae gan hostel rol i'w chwarae o ran gwneud i rywun deimlo'n garterefol, a thrwy wneud hynny, mae modd dod i fwynhau yr ardal. Doedd yr hostel yma ddim yn gartrefol, roedd mwy o bwyslais ar wneud pres nac ar sicrhau arhosiad cyfforddus teithwyr, ac o ganlyniad, doeddem wir ddim yn teimlo'n gartrefol yn canberra, fel rydym wedi'i wneud yn y dinasoedd eraill.
Gwnaethom dreulio'r diwnrod yn pasio'r amser wrth aros am y bys i'n cymryd i Sydney. Gwelsom y senedd, yr hen ar newydd, gwnaethom gerdded trwy'r ardd flodau rhosys oedd heb os gwerth eu gweld, yr afon, yn cynnig alarch ddu a'i chywion, ac heb os yr uchafbwynt i mi oedd y galeri ar amgueddfa . . . . ond eto, roeddem yn falch o weld y bys mawr coch yn yr orsaf fysys yn barod i'n cludo allan o'r ddinas. Ok, roedd pethau i'w gweld yma, ond wir, does dim angen mwy na rhyw ddirnwod yma i grwydro.
Iawn, falle bod hwn yn flog eitha negyddol, ond o gymharu a'r dinasoedd ar ardaloedd eraill, doedd canberra wir ddim yn cymharu. Petawn falle wedi ymweld ar lle yn gynt, cyn y llefydd eraill, y byddwn yma rwan yn ysgrifennu gwell blog, ond ar ddiwedd 2 fis eitha blinedig, ac ar hyn roedd sydney yn ei addo, doedd canberra ddim yn taro'r marc.
Ar y nodyn yna fodd bynag, Sydney . . . .methu aros!!!!
Dal i wenu
Sgityl & L.S
Gday boyo's
Two days, one night, and to be fair, that was enough in the Capital of Oz, canberra. The reviews we'd heard about the place had not been great, but we still decided to stop over on our way from melbourne to sydney. To be honest, a part of us wished we hadnt bothered.
Granted, you can't really get to know a place in two days. And there are probably a load of things to see and do, but having just spent a long time in Cities which offered so much, be it beach, culture, cheap places, Canberra just doesn't comapre, it's a city, a built up city. Created with the notion of being the capital, where so far the other places have been developed into the sizes and areas that they are using what traditional buildings and areas that they already have.
It was hard finding a hostel as well, with us having to dish out quite a lot of money to actually have a bed each in a 10 bed dorm, Even a small matter of having a place to keep our luggage during the day before catching the 6pm bus meant paying more money for lockers. The first and only hostel so far where we've had to do so. The evening was actually spent quite nicely with us all in the lounge watching a film. But, what can I say, the hostel helps a lot when it comes down to enjoying a place, and here, in Canberra, the hostel lacked that personal touch, where there was a strong feel that making money was more imporant than ensuring the pleasant stay of the traveller, which would of made the stay that little bit nicer.
basically, the next day was spent browsing and walking around to pass the time until the bus came to pick us up and take us to Sydney, our last destination in Australia. the highlight, visiting the canberra museum and galleries; insightfull, and helped pass the time. We also walked up to the parliment, be it old and new, and as we walked back stumbled upon the rose gardens and olympic statues which called for a load of photo opportunities. The river also offered us a glimpse of a black swan and her chicks feeding on the riverbank, which was rather cool to wittness. There were a few sites to see, no doubt, but really, unless your looking to work in the area, one day is plenty of time to see them.
Ok, so maybe a harsh blog, but, to be honest, we visited so many different places here in Australia, it just happened that Canberra just didnt compare. Maybe if we'd visited earlier, we would of appreciated it a bit more, but at the end of our trip, having the promise of Sydney in front of us, canberra just didnt hit the mark for us.
On that note, sydney, we actually can't wait!!!
Still smiling;
Sgityl & L.S
- comments