Profile
Blog
Photos
Videos
Helo helo!!
Dyma ni yn dod i ben yn xi'an. mae'r taxi wedi ei fwcio (am 6 bore fory) ac mewn dim bydd y bagiau yn llawn unwaith eto. Er yn ddinas, mae rhannu mawr ohoni heb ei gorffen, rhaid dringo dros fynyddoedd o dywod a brics i gerdded ar balmant. Mae adlewyrchiad Americanaidd cryf yma hefyd, dipyn mwy nac oedd yn Beijing, wrth haglo (mwy am hynny yn y man) maent yn cynnig y cynnyrch yn arian dollar, ddim tsieinaidd! Ar ol dweud hynny, mae traddodiadau cryf yma hefyd, ac hawdd oedd mynd ar goll ynghanol marchnadoedd bach traddodiadol yn y strydoedd bach, petai hynny ddim yn ddigon i'n hatgoffa o'r lleoliad . . roedd cerdded mewn i gomiwnal toilet a gweld hen ddynes fach yn sgwatio yn ddigon.Er gwybodaeth, nathon ni ddim ymuno.
heddiw oedd y diwrnod mawr o ran xi'an, lle y gwnaethom ymweld ar prif atyniad, y terracotta warriors. Un gair - waw. Does dim un gair gall ddisgrifio'r ias y gwnaethom deimlo wrth gerdded i mewn i'r pit cyntaf a gweld rhesi o filwyr clai yn sefyll yn falch, ar ol gymaint oi flynyddoedd. Pob un wedi eu llunio yn unigol, rhai yn gwenu, rhai yn gwgu . . . . yr arwyddocad hefyd, bod brenin pan yn dair ar ddeg wedi trefnu bod 700,000 o lafurwyr yn creu byddin gyfan gyda'r unig bwrpas o ofalu amdano yn y bywyd nesaf. Yn ol un o'r gwefanau hanes, cafodd y gweithwyr eu lladd yn fuan wedi gorffen y gwaith er mwyn sicrhau cyfrinach y broses. Rhaid cyfaddef, roedd ias arbennig i'r lle. Does dim son o fedd y brenin, er y gred ydi bod archeolegwyr yn ymwybodol o'r union fan, ond eisiau cadw'r chwedl yn fyw. Un peth gwnaeth y ddwy ohonom gytuno, mae'n siwr bod mwy o filwyr wedi eu claddu yn ddwfn o fewn yr ardal.
wrth gwrs roedd angen hel rhywfath o swfeniers, ac yn fuan iawn y gwnaethom sylweddoli bod haglo yn ffactor bwysig yma. Lisa'n gwneud yn iawn . . nia, wrth brynu potel o ddwr yn llwyddo i gynnig mwy na be oedd y ddynes wedi ei ofyn yn y lle cyntaf, lwcus, ma'n rhaid bod y ddynes fach wedi sylweddoli mod in newydd i'r busnes haglo ma, ac wedi gadael i mi brynu'r dwr am y pris gwreiddiol!!!!
Arwydd o'n tyfiant o ran y daith oedd ein bod wedi penderfynnu ymweld a chyrraedd lleoliad y fyddin ar ein liwt ein hunain, llwyddo y gwnaethom ni hefyd. wel, hefo help criw o fyfyrwyr lleol an harweiniodd ar hyd gorsaf drenau xi'an i'r safle bws cywir.
Agoriad llygad oedd y daith adre, cael ein tywys ar fws cymunedol i xi'an. Profiad a hanner. Y bws yn llawn wrth i ni drecio ar hyd lonydd cul ar draws pentrefi a threfi bach. Gweld geifr, cwn, pobl yn defnyddio'r toiled yng nghanol o stryd . . . gweld sut oedd y China wledig yn byw. profiad a hanner.
Iawn, dyna ni, ddim mwy i'w ddweud am xi'an. Chydig o ddyddie blinedig o'n blaenau. Shanghai, huangzhou a mynydd huangshan. llunie gwych ar ei ddiwedd gobeithio!!!
Hwyl a haul
sgityl a L.S xx
Wassuuuup!
Ok, so the bags aren't yet packed, but the taxi is booked for 6am tomorrow morning, yes, our time in xi'an has come to an end! Suprisingly for a city, it seems to be half finished with us having to climb over mounds of sand and piles of bricks even by walking on the pavement. There is no doubt that xi'an is an up and coming city, saying that there seems to be a strong american influence as we are even haggled (more on that later) in US dollars. We don't seem to lose the strong traditional elements for long, as we get lost within the small street markets, and even if that wasn't enough, making eye contact with an old chinese woman in a comunal squating toilet was enough to bring us back to reality. Needless to say, we didn't join her.
Today was a big day for us. We decided to go it alone and find our way to the main xi'an attraction, the terracotta warriors. a big xiexie to the local students who walked us from one end of the railway station to the bus we needed, apart from their help we managed alright!!!! There are no words to describe walking into the first pit, having tens of clay models staring back at us, each one with an individual characteristic, be it a smile, or a frown. Amazing. knowing that this was the work of 700,00 forced labourers, made to create this masterpiece to ensure the safety of their emperor in the afterlife. These labourers apparently killed when the work was finished to ensure that the secret of their talent and achievement was kept private. This was created by the newly appointed 13 year old emporer. there is no sign of the tomb the army are supposedly protecting, although, some believe that archaeologists are aware of the spot, but want to preserve the myth of it all.
Haggling is another factor which played an important part in xi'an, Lisa seemed to have understood how it all worked, while I managed to offer more than the shop woman selling me water asked for.
We lived a little on the way back, catching a local service bus. being on a packed bus driving through the back roads of shaanxi countryside is an eye opener, but a great experience as far as seeing how the chinese live within their own natural habbitat.
That's it from us, off to pack . . . . again. A busy few days ahead, including a trek up a mountain . . . amazing photos I hope to follow!
take care! and cheerio,
Sgityl and L.S
- comments