Profile
Blog
Photos
Videos
Helo helo helo!!
henffych gyfeillion!!
Chydig yn hwyr hefo'r blog yma, den ni'n ymddiheuro, i'r rheiny sydd yn ddyfal ddilyn ein llwybr, ni wedi gadael Chongqing ers ddoe . . . . ond ta waeth am hynny!!
Felly, sut le oedd chongqing dwi'n eich clywed yn gweiddi . . . . wel, i fod yn hollol onest, lle ddigon od, 'gentrefication' i'w weld yn glir yn ol y ddaearyddwraig, lisa, i'r gweddill ohonan ni, roedd datblygu yn amlwg yn y ddinas, ond gwneud hynny ar draul y toldion, trio cyfnewid y toldi hefo'r 'mall's' cyffrous, ond yn anffodus roedd oel hen adeilade budur, di-fflach yn amlwg yng nghysgodion y golau neon.
Amser ddigon tawel yn chongqing. cyrraedd yn eitha hwyr gyda'r nos yn dilyn cychwyn dros awr yn hwyr o'r maes awyr. Wedi treulio'r diwrnod cyfan yn trafeulio. Un digwyddiad rhyfedd, yr hostel yn Huangshan yn datgan y bydd bys yn ein pigo fynu o'r hostel i fynd a ni i Huangzhou i ddal yr awyren . . . . ar y dot, y bws mini yma yn troi fynu, an stwffio fel twrci ddydd dolig i'w grombil bach, y bws mini yn troi rownd, yn dreifio ddim mwy na 100metr fynu'r ffordd, ac yn stopio, agor drws a'n tynnu allan (odd angen gneud, roedden nin styc ar ol cael ein stwffio i ganol y bagie) a'n rhoi ar y bys iawn i Huangzhou. Y reid tacsi byraf erioed!!!!
Nol a ni i chongqing, Potchan y diwrnod cyntaf, cyn cychwyn drwy ganol y ddinas i ddal fferi oedd am ein cymryd ar daith dros yr yangtze. Gymaint o bobl yma'n syllu arnon ni, heb drio cuddio'r ffaith chwaith! Y daith yn anhygoel, y dwr mor fudur, ond eto, gweld teuluoedd yn dod at eu gilydd i eistedd wrth y lan, a gwylio'r llongau. Rhyfedd eto oedd gweld yr ardaloedd o dlodi yn diflannu i gysgod yr adeiladau modern. Hawdd fyddai teimlo tristwch, ond rhywsut, roedd gweld y bobl wrth y dwr yn mwynhau rhywbeth mor syml a gwylio'r noswyl yn arwydd falle mai'r rheiny heb gyfoeth materol oedd gyfoethocach eu byd.
Yr ail ddiwrnod a rhywsut ffeindio ein hunain yng nghanol rhan arall o chongqing, rhan oedd wedi ei ddatblygu dipyn mwy. Er, roedd na starbucks yn y ddau le!!!!! Symyd ymlaen i'r three gorges museum, oedd wedi cau, ond rhywsut, o fewm yr ardal, llwyddo i weld sgwar y bobl a neuadd cyfeillgarwch rwsia. diwnrod eitha llwyddiannus wedi'r cyfan. Noson dawel wedyn o bacio, llwytho lluniau a thrio cwlio lawr - y tywydd mor boeth. Ar ol llwyddo cysgu cael ei deffro wedyn gan storm, wel deffro gan y glaw, a'r mellt, oedd yn goleuo welydd yr ystafell fel yr adeiladau neon hynny ar lan yr yangtze.
Golwg ddigon gwirion y cawsom wrth gamu o faes awyr guilin i dymheredd o 38c yn ein cotie glaw a sgidie cerdded . . . . Ond mwy am hynny yn y blog nesa!!!!
llawer o gariad,
Sgityl a L.S
P.S Y ddwy ohonan ni, yn enwedig Lisa wedi gwirioni'n lan wrth weld billboard yn dangos plant ysgol gynradd China yn chifio banneri Cymru. (Llun i'w weld o fewn yr album chongqing!!!)
Yo Yo!!
How are you all?!
I apologise for the delay in this blog entry, for those who follows our journey, you will know that we have already left chongqing yesterday . . . .But, hey . . .
Ok, so what about chongqing I hear you shout . . . . well, again, the same sort of up market city as we've seen in our other stop offs, but this time, somehow, it was different. it would seem that poverty played a part here, there was a strong sense of developed, modern chongqing and the poor, old areas. gentrefication is the official term apparently says the resident geography expert (lisa), for the rest of us, it's when a city is developed trying to push the poor areas out.
It was a quiet few days, a chance to catch our breath a bit. chilled in the hostel the first day, before venturing out to the middle of the city to catch a ferry ride on the famous yangtze river. A western woman came to chat to us, indicating that it is hard to understand the city itself with just a short visit, and to some extent this was true, it felt like there was a real history and meaning to the place, which we really didnt get the chance to truly see.
The ferry trip was a real eye opener with the modern builidngs coming to life as night fell. The neon lights one by one lighting up the sky, the poor areas dissappearing into the shadows. No need for saddness though, as we left the dock, families were seen on the side watching, playing and just enjoying all that the river had to offer, be it fishermen, kites, or even a quick paddle in the water.
The second day we spent accidentally roaming the outer city, stumbling accross a really developed area, the three gorges museum (which had closed!!!) the peoples square and the friendship hall. Headed back to the hostel to chill, pack and cool down a bit from the hot weather, Sleeping was a nightmare, and last night, having just nodded off, was woken up by the sound of pounding rain, and lightning lighting up the room walls just as the neon lights did the yangtze . . . . . maddness. We had strange looks stepping into the guilin heat (38 c) in out waterproofs and walking boots . . . but more about that in out next e-mail!!!
I have been banned to tell you about the fascinating toy we found in our safe . . . . . if you'd like to know more, leave a message, and I'll contact you personally!!!
Take care one and all,
Sgityl and L.S
P,S We enjoyed the shortest taxi trip in the history of taxi trips in Huangshan, where we were told that the bus taking us to huangzhou would pick us up from the hostel, a mini bus turned up, stuffed us into the back . . . .turned round. . . drove up the road no more than a 100metres, and dropped us off by the official bus . . . . . this is just another sign of the friendliness and compassion the chinese people have for others to be willing to save our feet that short journey to the bus stop.
P.P.S imagine our surprise walking in chongqing and coming face to face with a billboard which held a picture of local primary school children waving Welsh flags!!!!
- comments